Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2016
Amser: 09.30 -
11.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3659
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Steffan Lewis AC Eluned Morgan AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC David Rees AC |
Tystion: |
Georgina Haarhoff, Llywodraeth Cymru Ed Sherriff, Llywodraeth Cymru Richard Clarke, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Gerallt Roberts (Dirprwy Glerc) Christian Tipples (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor i’r cyfarfod.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd David Rees AC a Steffan Lewis AC fel aelodau newydd o’r Pwyllgor.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Ystyriodd yr aelodau oblygiadau ariannol y darpariaethau ym Mil Cymru Llywodraeth y DU.
3.2 Ystyriodd yr aelodau ddiwygiadau’r Llywydd i’r Bil a cytunodd yr aelodau i ysgrifennu i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda’u barn ar y Bil.
4.1 Cytunwyd y cynnig.
5.1 Cafodd Aelodau eu briffio ar ddatganoli trethi yng Nghymru gan: Georgina Haarhoff – Pennaeth Polisi Trethi a Deddfwriaeth, Llywodraeth Cymru, Ed Sherriff – Pennaeth Strategaeth Gyllidol, Llywodraeth Cymru, a Richard Clarke – Rheolwr Polisi Gweithrediadau, Llywodraeth Cymru.
6.1 Cytunodd yr Aelodau yr adroddiad drafft gyda mân welliannau.
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor eitemau o’i fusnes cynnar, a trafododd gynigion ar gyfer ymgynghoriadau yn y dyfodol.